Diwrnod Marchnad Lyrics

Brigyn

Non-album songs

Lyrics to Diwrnod Marchnad
Diwrnod Marchnad Video:
Mae'n fore llwm, mae'n glawio'n drwm
Ond codi sydd rhaid, ac wynebu'r byd sydd o mlaen
Awyr lwyd, y bws yn hwyr
Fy nghroen ar dân, wedi i mi siafio'n groes i'r graen

Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.

Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio i dôn fyddarol eu gwaedd.

Mae bywyd yn braf, er nad yw byth yn rhwydd
Mae bywyd i fyw, er gwaetha yr holl lwyth
Y cwmni'n gyfarwydd, ond pob wyneb yn ddiarth
yn estyn am y peth agosaf o unrhyw werth

Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.

Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio...

Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n amser paned
Dyma'r lle, sy'n gwerthu'r te gorau yn y byd
Mae'n ddiwrnod marchnad ac yn yr holl brysurdeb
Ti'n gweld dy hun yn rhan o'r llun...
yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun.
Songwriters:
Publisher:
Powered by LyricFind